Teithiau Llesol

Hafan > Plant > Llais plant > Teithiau Llesol

Mae Ysgol Cymerau yn falch o fod yn rhan o gynllun Teithiau Llesol Walk Wheel Cycle Trust Cymru, gan hyrwyddo ffyrdd iach, cynaliadwy a diogel o deithio i'r ysgol ac o amgylch ein cymuned.

Rydym yn gweithio'n galed tuag at gyflawni'r Wobr Aur Teithiau Llesol, gan adeiladu diwylliant lle mae cerdded, beicio ac olwynio yn rhan naturiol o fywyd bob dydd. Fel ysgol, rydym yn cymryd teithio llesol o ddifrif ac yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i'n disgyblion ddatblygu eu sgiliau a'u hyder.

Drwy gydol y flwyddyn rydym yn trefnu bysiau beic, teithiau beicio, a gwersi beicio rheolaidd, gan annog plant i fwynhau manteision bod yn egnïol tra'n dysgu sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd.

Ein gweledigaeth yw sicrhau bod pob plentyn erbyn iddo adael Ysgol Cymerau yn gallu reidio beic ar y ffordd fawr yn hyderus, yn ddiogel ac yn annibynnol. Credwn fod y sgiliau hyn yn cyfrannu at iechyd, lles, annibyniaeth a hyder ein disgyblion, gan eu paratoi ar gyfer y dyfodol.

Trwy weithio gyda'n gilydd fel ysgol, teuluoedd a'r gymuned ehangach, rydym yn helpu i greu cenhedlaeth sy'n dewis teithio mewn ffordd fwy iach a chynaliadwy.

Disgyblion Ysgol Cymerau ar ei beiciau

Pwyllgor Teithiau Llesol Ysgol Cymerau 2025 - 2026

Pwyllgor Teithiau Llesol Ysgol Cymerau am y flwyddyn 2025 - 2026

Swyddog  & Ein Gwirfoddolwr Teithiau Llesol Ysgol Cymerau

  • Swyddog y gynllun teithiau llesol
  • Ruth, Gwirfoddolwr gynllun teithiau llesol

Fideos gan y Pwyllgor Teithiau Llesol

Diolch i criw Teithiau Llesol am y fidio sy’n rhannu y llefydd mwyaf diogel i barcio er mwyn cyrraedd Ysgol Cymerau.

Gyda’r holl feicio sydd wedi bod yn cymryd lle yn yr ysgol dros yr wythnosau diwethaf, mae’r pwyllgor Teithiau Llesol wedi paratoi fidio i’n hatgoffa o sut i wisgo helmed yn gywir.