Cysylltwch hefo’r ysgol os ydych angen gweld y polisi llawn.
Mae gan yr ysgol bolisi pendant sy’n amlinellu sut rydym yn delio ag achosion o fwlio pan ddigwydd yn yr ysgol. Mae’r polisi’n cydymffurfio â chanllawiau Gwrth-fwlio (Cylchlythyr 23/2003)
NOD Y POLISI:
- Creu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo'n gartrefol, yn ddiogel ac yn hapus. Dim ond mewn amgylchedd fel hwn y gall plant gyrraedd eu llawn botensial. Mae pob math o fwlio yn tanseilio cyfle cyfartal.
- Mae'r polisi hwn yn caniatáu i'r ysgol adnabod bwlio cyn gynted ag y bydd yn dechrau gan ganiatáu i'r staff ddelio â'r sefyllfa a'i datrys cyn gynted â phosibl.
Pan fo’r ysgol yn adnabod achosion o fwlio fe fydd yn dilyn y camau isod:
- Trafod y digwyddiad gyda'r plant yn unigol.
- Cynnal cyfarfod gyda’r rhieni/gwarcheidwaid.
- Cofnodi’r dystiolaeth a gasglwyd.
- Gweithredu pellach os oes angen.
NOD Y POLISI:
- Darparu cyfle i bob disgybl, beth bynnag fo’i ryw, ei allu, ei gefndir diwylliannol ag ethnig.
- Sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn dioddef rhagfarn ar sail hil, cred, rhyw, iaith, gallu addysgol, safle cymdeithasol nac anabledd.
- Sicrhau fod holl ystod y cwricwlwm ac holl adnoddau’r ysgol ar gael i bob disgybl.
- Sicrhau fod agweddau cymdeithasol cadarnhaol yn cael eu meithrin yn yr ysgol ymhlith plant ag oedolion. Anogir plant i gydweithio ac i ddangos dealltwriaeth o’u cyfrifoldeb tuag at eraill.
NOD Y POLISI:
Mae gan bob ysgol ddyletswydd fugeiliol tuag at ei disgyblion a thrwy hynny, mae’r ysgol hon yn hyrwyddo atal camdriniaeth ac esgeulustod trwy greu a chynnal awyrgylch ddiogel i’w disgyblion.
Mae’r ysgol hon o’r farn fod bwlio seibr yr un mor ddifrifol â ffurfiau eraill o fwlio.
O ganlyniad ni ellir caniatáu defnyddio ffonau symudol gan ddisgyblion tra ar safle’r Ysgol. Os oes rhaid i blentyn ddod â ffôn symudol gydag ef/ hi i’r ysgol am resymau arbennig fe fydd yn rhaid iddo / iddi ei adael yn y swyddfa gynted ag y bydd yn cyrraedd yr ysgol.
Trefn Disgyblu
Pe bai disgybl yn defnyddio ffôn symudol tra ar safle’r Ysgol mi fydd yn derbyn cosb yn unol â pholisi ‘Rheoli Ymddygiad Disgyblion’ yr Ysgol. Mi fydd disgwyl i’r unigolyn cadw ei ffôn, wedi’i diffodd mewn man ddiogel a ddarperir gan yr Ysgol i’r pwrpas hwnnw. Dychwelir y ffôn symudol ar derfyn y diwrnod ysgol. Os bydd y disgybl yn torri’r rheol am yr ail-dro cedwir y ffôn hyd nes bydd rhiant wedi dod i’r ysgol i’w nôl.
NOD Y POLISI:
Nod y polisi hwn yw ychwanegu yn gyfrifol ac yn ddatblygiadol at wybodaeth a phrofiadau plant am eu cyrff a’u perthynas o’r byd o’u cwmpas. Trwy wneud hyn bydd y disgyblion yn gallu delio yn well yn ystod glasoed wrth ddatblygu sgiliau a hunain barch i fod yn hyderus yn eu arddegau.
Amcanion Cyffredinol
- Cyflwyno Addysg Bywyd/Rhyw a Pherthnasoedd fel rhan o raglen Addysg Bersonol a Chymdeithasol gynhwysfawr
- Paratoi disgyblion ar gyfer glasoed
- Datblygu sgiliau a hunan barch i gynorthwyo plant wrth gyrraedd eu arddegau
- Delio â phryder a chywiro camddealltwriaeth y gall plant eu cael o’r cyfryngau a chyfoedion
- Datblygu sgiliau i gynorthwyo plant i’w hamddiffyn eu hunain rhag profiadau rhywiol nad ydyn nhw am eu cael
- Trafod agweddau a gwerthoedd
Mae’r Corff Llywodraethu yr ysgol, yn unol â gofynion Adran 29 Deddf Addysg 2002, wedi sefydlu trefn ar gyfer trin cwynion gan rieni. Bydd y Corff Llywodraethol yn ystyried canllawiau’r Cynulliad Cylchlythyr 03/2004 pan ddaw unrhyw gwyn i law. Bydd pob broses yn dilyn y drefn a nodir yn y ddogfen. Mae’r Llywodraethwyr wedi sefydlu trefn tri cham i drin a chwynion.
Cam 1 - Cwyn lafar/ysgrifenedig i aelod o staff neu’r pennaeth. Gwneir pob ymdrech gan y pennaeth i ddatrys y gwyn ar y cam hwn.
Cam 2 - Cwyn ysgrifenedig i’r pennaeth a gaiff ei archwilio a’r canlyniad yn cael ei gyflwyno yn ysgrifenedig i’r achwynydd.
Cam 3 - Os nad yw’r achwynydd yn fodlon â’r canlyniad fe all y Corff Llywodraethu ystyried y mater. Clywir y gwyn gan Is-Banel Cwynion y Corff. Yn dilyn cwblhau Cam 3 gall y corff llywodraethol neu’r achwynydd gysylltu â’r AALl i adolygu’r drefn. Dylid cysylltu â’r ysgol i wneud apwyntiad i drafod unrhyw gŵyn gyda’r pennaeth.
