Mae Ysgol Cymerau yn rhan o gynllun Ysgolion Iach Gwynedd sy’n cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gweithredir mewn partneriaeth a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Chyngor Gwynedd.
Nod y cynllun yw annog ysgolion i hyrwyddo a meithrin iechyd a lles disgyblion, staff a’r gymuned ehangach. Mae’r cynllun yn cwmpasu meysydd fydd yn cyflwyno agweddau o Iechyd a Lles drwy’r penawdau canlynol:
- Bwyd
- Ysgol Actif / Gweithgaredd corfforol
- Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol
- Datblygiad Personol a Pherthnasoedd
- Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau
- Yr Amgylchedd
- Diogelwch
- Hylendid
Gellir cael mwy o wybodaeth am Y Cynllun Iach drwy fynd ar wefan www.ysgolioniachgwynedd.org
